Henffych, a Chroeso!
Lleolir Cwfen yr Axis Mundi yn ne-ddwyrain Cymru ac yn ymarfer Wica Draddodiadol Prydain – math benodol, ynydol o Wrachyddiaeth Draddodiadol Prydain.
Mae Wica Draddodiadol Prydain yn olrhain ei gwreiddiau i ardal y New Forest yn Lloegr yn y 1940au cynnar, gyda Gerald Gardner yn sylfaenydd Wica gyfoes. Datblygodd Gardner, ynghyd â’i Gwfen Bricket Wood, y dysgeidiaethau a gafodd ymhellach oddi wrth Cwfen y New Forest.
Mae ein cwfen ni yn dilyn Traddodiad Alecsandraidd o Wrachyddiaeth, a gafodd ei sefydlu yn y 1960au gan Alexander Sanders a’i wraig, Maxine Sanders. Gan gynnwys hud seremonïol a Qabalah—meysydd roedd Alexander Sanders wedi’u hastudio’n annibynnol—daeth y Traddodiad Alecsandraidd yn draddodiad ynddo hi ei hun, eto’n dal i fod yn agos at Wica Gadneraidd.
Mae llinach glir gan ein cwfen ni, ac rydyn ni’n olrhain ein llinach yn ôl i Alexander Sanders, trwyddo fe yn ôl i Gerald Gardner, ac yn ei thro yn ôl i Gwfen y New Forest. Mae’r Traddodiadau Alecsandraidd a Gardneraidd ill dau yn ffurfio craidd o’r hyn a elwir y Wicâu.
Fel Cwfen sy’n ymarfer Wica Draddodiadol Prydain, traddodiad cyfrin ydyn ni, sy’n rhwymedig trwy lw, gyda dysgeidiaethau yn cael eu trosglwyddo’n gyfrinachol i’r rhai sydd wedi’u hynydu i’r Cylch Mewnol a’r Traddodiad. Dyw’r hyn rydyn ni’n ei gwneud ddim ar gael ar Google, a dydych chi ddim yn gallu ei dilyn ar Facebook, na’i phinio ar Pinterest, na’i charu ar Instagram, na’i hail-bostio ar Twitter, na’i chymysgu ar TikTok, nac ar gael i’w darllen mewn llyfr—mae’n rhaid ei byw a’i phrofi. I’r rhai sy’n cael eu galw i’r Llwybr, mae cael eich ynydu i Gwfen yr Axis Mundi yn dechrau gyda’n Hyfforddiant yn y Cylch Allanol, sy’n ofyniad bron bob tro. Ewch i’n tudalen “Training/Hyfforddiant” am ragor o wybodaeth.
Mae ein harferion yn draddodiadol Alecsandraidd ac yn cynnwys:
· Gweithio yn awyrwisg (noethni defodol)
· System tair gradd o ynydu
· Dathlu’r Sabatau a’r Esbatau
· Creu a gweithio hud a gwrachyddiaeth
Rydyn ni’n ymarfer dewiniaeth a hud fel dulliau o hunan-ddatblygiad sy’n rhoi’r grym yn ôl ichi. Mae pob person sy’n cael ei ynydu yn wrach ac yn offeiriad neu’n offeiriades ill ddau ar Dduwiau’r Wicâu. Mae gan y Cylch Mewnol – craidd gweithiol y gwfen – dros ugain mlynedd o brofiad ynydol. Mae pob gradd yn dwysáu cysylltiad â’r Duwiau a’r Dirgelion drwy hyfforddiant strwythuredig a phrofiad uniongyrchol.
Rydyn ni’n rhan o Draddodiad Cyfrin: nid yw Duwiau’r Wicâu yn ffigyrau a geir mewn llyfrau neu ar-lein – maen nhw’n cael eu profi, yn bersonol ac yn ddwfn, trwy brofiad a Gwaith. Nid oes modd dysgu’r Dirgelion mewn geiriau yn unig; rhaid eu teimlo, eu hadnabod, eu byw, a’u profi.
Rydyn ni’n cwrdd unwaith i ddwywaith y mis i ddathlu’r Esbatau (defodau lleuad) a’r Sabatau (gwyliau tymhorol)—sef o leiaf 21 o gyfarfodydd y flwyddyn, yn ogystal â Gweithiau ychwanegol a digwyddiadau cymdeithasol achlysurol. Disgyblaeth, ymroddiad, diwydrwydd, ac ymrwymiad yw cerrig sylfaen ein gwaith gyda’n gilydd.
Mae ein cwfen yn anrhydeddu’r hen dduwiau. Rydyn ni’n eu haddoli, eu dwysbarchu, ac yn eu cofio. Rydyn ni’n galw ar Eu henwau—ac maen Nhw’n ateb. Mae’r Traddodiad yn adnabod y deinameg rhwng y duw a’r dduwies, y gwrywaidd a'r benywaidd, ond maen ein dealltwriaeth o’r duwiau yn derbyn y sbectrwm llawn o rywedd a hunaniaeth. Rydyn ni’n croesawu pawb sydd wir yn ceisio, waeth beth fo eu rhyw, eu rhywioldeb, hunaniaeth rhywedd, oedran, gallu corfforol, neu gefndir cymdeithasol.
Rydyn ni’n annog gwaith ymarferol gyda’r gwfen ac ymarfer unigol hefyd—gan gynnwys hunan-astudio a gwaith a dderbynnir. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â’n Cwestiynau Cyffredin.
Fel llawer o gwfenni Wica Draddodiadol Prydain, rydyn ni’n byw yn ôl y rheolau “Mae popeth yn Wica yn cael ei ofyn amdano,” a “Dylai fod yn anodd dod i mewn iddo, ac yn hawdd mynd allan ohono.” Dyw’r llwybr yma ddim yn un hawdd. Mae’n galw am ddyfalbarhad, gwaith caled, ac ymroddiad dwfn—ac mae’r gwobrau’n ddwys ac yn gallu newid eich bywyd.
Wedi’i sefydlu yn 2023, mae Cwfen yr Axis Mundi yn cario’r Traddodiad byw ymlaen, dan arweiniad aelodaeth sydd â dros bedair blynedd ar hugain o brofiad ynydol gyda’n gilydd.
Os bydd hyn yn siarad â’ch calon, rydyn ni’n eich gwahodd i gysylltu trwy e-bost ar waelod y dudalen. Mae’r llwybr yn disgwyl amdanoch chi.
Henffych, a Chroeso! Hail, and Welcome!
The Coven of the Axis Mundi is based in south-east Cymru and practises British Traditional Wica—a specific, initiatory form of British Traditional Witchcraft.
British Traditional Wica traces its roots to the New Forest region of England in the early 1940s, with Gerald Gardner being the founder of modern-day Wica. Gardner, together with his Bricket Wood Coven, further developed the teachings that Gardner received from the New Forest Coven.
Our coven follows the Alexandrian Tradition of Witchcraft, established in the 1960s by Alexander Sanders and his wife, Maxine Sanders. Drawing on ceremonial magic and Qabalah—areas Alexander Sanders had studied independently—the Alexandrian Tradition emerged as a distinct, but closely related, counterpart to Gardnerian Wica.
We are a lineaged coven, tracing our initiatory lineage directly to Alexander Sanders, through him to Gerald Gardner, and ultimately linking back to the New Forest Coven. Both the Alexandrian and Gardnerian traditions form the core of what is known as the Wica.
As a coven of British Traditional Wica, we practise an oath-bound, mystery tradition, with teachings passed down in secrecy to those initiated into our Inner Court and Tradition. What we do cannot found on Google, followed on Facebook, pinned on Pinterest, loved on Instagram, re-posted on Twitter, mixed on TikTok, or read about in a book —it must be lived and experienced. For those called to the Path, initiation into the Coven of the Axis Mundi begins with our Outer Court Training, which is a prerequisite in nearly all cases. Please visit our “Training/Hyfforddiant” page for more details.
Our practices are traditionally Alexandrian and include:
Working skyclad (ritual nudity)
A three-degree system of initiation
Celebrating the Sabbats and Esbats
Crafting and working magick and witchcraft
We practise witchcraft and magick as paths of self-development and empowerment. Every initiate becomes both witch and priest or priestess of the Gods of the Wica. The Inner Court—the coven's working core—holds over two decades of initiatory experience. Each degree deepens one's connection with the gods and the Mysteries through structured training and direct experience.
Ours is a Mystery Tradition: the gods of the Wica are not figures found in books or on-line—they are encountered, personally and profoundly, through experience and Work. The Mysteries cannot be taught in words alone; they must be felt, known, lived, and experienced.
We meet one to two times monthly to celebrate the Esbats (moon rituals) and Sabbats (seasonal festivals)—totalling a minimum of 21 gatherings per year, with additional Workings and occasional social events. Discipline, dedication, diligence, and devotion are the cornerstones of our work together.
Our coven honours the old gods. We worship them, venerate them, remember them. We call Their names—and They answer. The Tradition recognises the polarity of god and goddess, male and female, yet our understanding of divinity embraces the full spectrum of gender and identity. We welcome all who are sincerely called, regardless of sex, sexuality, gender identity, age, physical ability, or background.
We encourage both practical coven work and solitary practice, including self-study and received work. For more information, please see our FAQs.
Like many British Traditional Wican covens, we live by the maxims “Everything in Wica is asked for,” and “It should be difficult to get into, and easy to get out of.” This path is not for the faint-hearted. It demands perseverance, hard work, and deep devotion—and the rewards are profound and life-changing.
Founded in 2023, the Coven of the Axis Mundi carries forward a living Tradition, guided by leadership and members with over twenty-four years of combined initiatory experience.
If this speaks to your heart, we invite you to reach out via the email symbol at the bottom of the page. The path awaits.