Ar hyn o bryd (Mawrth 2025), nid ydym yn derbyn myfyrwyr nes Heuldro'r Gaeaef 2025. Dewch yn ôl yn aml am ddiweddariadau.
We are not currently (March 2025) accepting students until Winter Solstice 2025. Please do check back in regularly for any updates.
Rydym yn ymarfer yn ardal Pontypridd yn ne Cymru.
We practise in the Pontypridd area in south Cymru.
Fel cwfen, mae gennym dros bedair blynedd ar hugain o brofiad ynydol, ac mae gan yr Archoffeiriades a'r Archoffeiriad dros ddeunaw mlynedd o brofiad ynydol rhyngddynt. Yn ogystal, sefydlwyd y cwfen yn ei gwedd bresennol yn 2023.
As a coven, we have over twenty four years of initiate experience, and the High Priestess and High Priest have over eighteen years of initiate experience between them. In addition, the coven was established in its current form in 2023.
Nac ydym, nid ydym fel arfer yn ymarfer y tu allan. Rydym fel arfer yn ymarfer liw nos, ac rydym am i'n haelodau fod yn saff ar eu traed. Yn ogystal, nid yw tywydd Cymru yn ffafriol, hyd yn oed yn ystod yr haf! Er hynny, efallai bydd cyfle i ni ymarfer y tu allan rywbryd yn y dyfodol. Mae adeilad y tu allan o hyd y tu mewn.
No, we don't usually practise outside. We usually practise at night, and we want our members to be safe on their feet. In addition, the weather in Cymru is not favourable, even during the summer! However, there may be an opportunity for us to practise outside at some point in the future. An outside building is still inside.
Gall credoau'r Wicâu amrywio o wrach i wrach. Er hynny, rydym ni, fel cwfen, yn credu mewn duwiau a duwiesau, rydym yn ymarfer gwrachyddiaeth, rydym yn dathlu'r sabatau a'r esbatau, ac rydym yn credu mewn defnyddio defodau ynydu yn sail dod yn aelod o'r Wicâu.
The beliefs of the Wica can vary from witch to witch. However, we, as a coven, believe in gods and a goddesses, we practise witchcraft, we celebrate the sabbats and esbats, and we believe in using initiation rituals to become part of the Wica.
Yn gryno, llawer. Mae llawer o waith i'w gwblhau a llawer o sgiliau i'w cymhwyso yn y Cylch Allanol, ac nid ydym yn gwneud unrhyw esgusodion dros hyn - mae'n cymryd llawer o egni, amser, a dyfalbarhad i ddysgu Wica Draddodiadol Prydain a sefyll yng nghylch y Wicâu. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys gwaith ysgrifenedig a gwaith ymarferol, ynghyd â chyfarfodydd wyneb i wyneb i gymhwyso'r gwaith theori. Rydym hefyd yn disgwyl i'r rhai sy'n dilyn ein hyfforddiant fynychu defodau megis y sabatau a defodau eraill pan fo angen. Os dewch yn aelod o'r Cylch Mewnol, mae'r gwir waith yn dechrau lle ein bod yn disgwyl mwy o ymrwymiad i'r cwfen ac oddi wrthych i'ch datblygiad personol.
In short, a lot. There is a lot of work to be done and many skills to be applied in the Outer Circle, and we make no excuses for this - it takes a lot of energy, time, and persistence to learn British Traditional Wica and to stand in the circle of Wica. The training includes written work and practical work, together with face-to-face meetings to apply the theory work. We also expect our dedicants to attend rituals such as the sabbats and other rituals when necessary. If you become a member of the Inner Circle, the real work begins where we expect more commitment to the coven and from you to your personal development.
Os hoffech hyfforddi gyda ni yn ein Cylch Allanol, na chewch. Mae'r gwaith theori ac ymarferol yn mynd law yn llaw â'i gilydd ac mae llawer iawn o'r gwaith yn digwydd wyneb yn wyneb.
If you'd like to train with us in our Outer Court, no, you can't. The theory and practical work goes hand in hand, and a lot of the work takes places in person.
Nac oes, does dim cost ariannol am yr hyfforddiant. Er hynny, bydd cost egni ac amser. Yn ogystal, weithiau bydd gofyn i chi gyfrannu tuag at gostau canhwyllau, perlysiau ayyb sy'n cael eu defnyddio gennych chi, oni bai eich bod yn eu prynu drosoch chi'ch hun.
No, there is no financial cost for the training. Having said that, there is a time and energy cost. In addition, sometimes you'll be asked to contribute towards to the cost of candles, herbs etc. that you use, unless you source them yourself.
Wrth gwrs! Ymwelwch â'r dudalen hon (cliciwch).
Of course! Please visit this page (click).
Rhaid i chi fod o leiaf yn 18 er mwyn ymuno â'n Cylch Allanol. Mae'n well i chi allu gyrru er mwyn ein cyrraedd, oherwydd bod trafnidiaeth gyhoeddus hwyr yn gallu bod yn broblem.
You must be at least 18 to join the Outer Court. It's preferable if you can drive to get to us, as late public transport can be a problem.
Mae prosesau cyn ymuno â'r Cylch Allanol, ac wedyn rhaid i chi fod yn ffit da ar gyfer ein cwfen er mwyn cael eich ynydu i mewn i'n Cylch Mewnol; mae cael eich ynynu yn aelod o'n cwfen (ac felly o'r Wicâu) yn fraint, nid yn hawl. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â'r dudalen hon (cliciwch). Os nid yw'n cwfen yn ffit da i chi, mae sawl cwfen arall ar gael yn ardal de Cymru, a byddwn yn eich argymell ymweld â Mandragora Magika i ganfod rhagor o wybdoaeth.
There are processes before joining the Outer Court, and then you must be a good fit for our coven for you to be initiation into out Inner Court; initation into our coven (and thereby into the Wica) is a privilage, not a right. For more information, please visit this page (click). If our coven isn't a good fit for you, there are a number of other covens available in the south Cymru area, and we would suggest you visit Mandragora Magika to find out more.
Megis darlleniadau tarot, iacháu crisialau, swyngyfaredd, reiki... fel cwfen, nac ydym. Mae rhai o'n aelodau yn cynnig gwasanaethau tebyg o dro i dro, ond mae hyn ar sail yr unigolyn a ddim fel cwfen.
Such as tarot reading, crystal healing, spellcraft, reiki... as a coven, no, we don't. Some of our members from time to time do offer similar services, but this is on an individual basis and not as a coven.