Ar hyn o bryd (Mawrth 2025), nid ydym yn derbyn myfyrwyr nes Heuldro'r Gaeaef 2025. Dewch yn ôl yn aml am ddiweddariadau.
Mae Cwfen yr Axis Mundi yn cynnig Rhaglen Hyfforddiant yn y Cylch Allanol i Geiswyr sydd am ymuno â'n cwfen a cherdded Llwybr yr Ynydai.
Mae ein hyfforddiant yn y Cylch Allanol ar gael yn rhad ac am ddim, fel yr hyfforddiant i gyd yn y Cylch Mewnol, i'r rhai sydd wir am ddysgu am Wica Draddodiadol Prydain, ymarferion gwrachyddiaeth, a gwybodaeth ehangach ym myd yr ocwlt, gyda strwythur cefnogol a lled-ffurfiol.
Cyn dechrau ar y Rhaglen, mae darpar-fyfyrwyr yn cael cyfweliad cyfeillgar, sy'n eich helpu chi a'n helpu ni i weld a ydych chi'n ffit da i'n cwfen, ac a ydyn ni'n ffit da ichi. Os cewch eich derbyn, mae disgwyl i chi wneud eich gorau glas i orffen y rhaglen, ond mae croeso i chi stopio ar unrhyw adeg. Os nad yw'r cynnwys, y proses, na'r cysylltiad ddim yn dwyn ffrwyth i chi nac i ni, byddwn yn argymell i chi ddewis llwybr gwahanol. Rydyn ni'n gwerthfawrogi gonestrwydd - mae cerdded i ffwrdd â gonestrwydd bob tro yn well na cherdded ymlaen heb argyhoeddiad.
Mae hyfforddiant y Cylch Allanol yn cynnwys 13 gwers wyneb yn wyneb, gyda phob gwers yn archwilio topig neu arfer pwysig sy’n adeiladu ar eich sgiliau a’ch dealltwriaeth fel Profiannwr. Mae’r gwersi hyn yn cynnwys ymarferion a dysgeidiaethau sy’n hanfodol i Waith yr Ynydai – sgiliau sy’n creu sylfaen i’r hyn a ddaw. Ar ôl pob sesiwn wyneb yn wyneb, bydd gwaith theori dilynol er mwyn dyfnhau eich dealltwriaeth a myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd. Mae’r elfennau theori ac ymarferol ill ddau yn ofynnol er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Er ein bod yn rhoi croeso i’r rhai sydd am ddilyn y Llwybr hwn, rhaid nodi nad yw cwblhau cwrs y Cylch Allanol yn sicrhau y byddwch yn cael eich Ynydu. Mae Ynydu yn ymrwymiad difrifol, a rhaid i’r ddau ohonon ni deimlo bod y perthynas yn fuddiol. Mae drysau’r Cylch Mewnol yn agor pan fo cyd-ymddiriedaeth, cyd-gysylltiad, a chyd-aliniad. Os cewch eich derbyn am Ynydu, dyna fydd gwir ddechrau ar Waith y Cylch.
Rydyn ni’n rhoi croeso i ymholiadau oddi wrth Geiswyr sydd o ddifrif, waeth beth fo eu rhyw, rhywedd, rhywioldeb, hil, gallu corfforol, neu gefndir addysg. Y cyfan ein bod yn gofyn amdano yw bod eich Ceisio yn dod o’ch calon, a’ch bod yn barod i ymrwymo i ddysgu, i fyfyrio, ac i dyfu.
Nid ydyn ni’n ymddiheuro am y ffaith bod angen ymrwymiad mawr er mwyn dilyn cwrs ein Cylch Allanol. Mae safon y gwaith yn uchel, a bydd y cwrs yn gofyn llawer oddi wrthych chi – fel ei fod yn gofyn llawer oddi wrthyn ni hefyd. Byddwch yn onest gyda’ch hun a gofynnwch y cwestiynau yma i chi’ch hun: “Oes gen i’r amser, lle, ac egni i wneud yr hyfforddiant hwn yn flaenoriaeth yn fy mywyd?” Os mai “nac oes” yw’r ateb, neu hyd yn oed “dim eto,” mae hynny’n iawn. Efallai nid dyma’r amser cywir i chi. Cymerwch yr amser i feddwl ac i baratoi – byddwch chi’n gwybod yn iawn pan fo’n iawn i gymryd y cam cyntaf.
Os rydych chi’n byw yn ardal de-ddwyrain Cymru, neu ar ei phwys, a hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r cyfeiriad e-bost sydd ar gael ar waelod y dudalen hon drwy glicio ar y symbol e-bostio. Byddwn ni’n hapus i ateb eich cwestiynau a’ch helpu i benderfynu a yw’r llwybr yma yn un iawn ar eich cyfer.
Gyda bendithion cynnes,
- Cwfen yr Axis Mundi
We are not currently (March 2025) accepting students until Winter Solstice 2025. Please do check back in regularly for any updates.
The Coven of the Axis Mundi offers an Outer Court Training Programme for Seekers who wish to join our coven and walk the Path of the Initiate. This programme serves as a bridge between the initial calling of Seeking and the formal request for Initiation.
Our Outer Court training is offered completely free of charge, as is all training within the Inner Court, to those who genuinely seek to learn about British Traditional Wica, witchcraft practices, and the broader landscape of occult knowledge—all within a semi-formal, supportive structure.
Before beginning the course, prospective students go through a friendly interview process, which helps both you and us determine whether we’re the right fit for each other. If accepted, there’s an expectation that you’ll do your best to complete the programme, but you’re absolutely free to step away at any time. If the material, the process, or the connection simply doesn’t resonate, we fully support you choosing a different path. We value honesty and clarity on both sides—walking away with integrity is always better than walking forward without conviction.
The Outer Court training is made up of 13 in-person lessons, each of which explores a foundational topic or practice that builds your skills and understanding as a Dedicant. These lessons include exercises and teachings essential to the Work of the Initiate—skills that form the groundwork for what lies ahead. Following each in-person session, there will be follow-up theory work to deepen your understanding and reflect on what you've learned. Both the practical and theoretical elements are required to complete the programme successfully.
While we welcome those who feel called to the Path, please note that completion of the Outer Court programme does not guarantee Initiation. Initiation is a serious commitment, and both you and the coven must feel that the relationship is a good match. Only when mutual trust, connection, and alignment are present can the doors to the Inner Court open. If you're accepted for Initiation, that's when the real Work of the Circle truly begins.
We are open to serious enquiries from all genuine Seekers, regardless of sex, sexuality, gender identity, race, physical ability, or educational background. All we ask is that your Seeking comes from the heart, and that you are ready to commit to learning, reflection, and growth.
We make no apology for the fact that the Outer Court requires commitment. The standard of work is high, and the course will ask a lot from you—as it does from us. Ask yourself honestly: "Do I have the time, space, and energy to make this training a priority in my life?" If your answer is "no" or even "not yet", that’s OK. It may simply not be the right moment. Take the time you need to reflect and prepare—you’ll know when you’re ready to take that first step.
If you live in or near south-east Cymru and you’d like to know more, feel free to reach out by clicking the email symbol at the bottom of this page. We’re happy to answer your questions and help you decide whether this is the path for you.
We look forward to hearing from you.
With warm blessings,
—The Coven of the Axis Mundi